Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission

NAFWC 2012 (Papur 2 Rhan 1)
Adroddiad blynyddol a chyfrifon
Comisiwn y Cynulliad 2010-11

Dyddiad: Dydd Mercher 29 Mehefin 2011
Amser:   11.30-13.00
Lleoliad: Ystafell gynadledda 4B
Enw a rhif cyswllt yr awdur:
 Iwan Williams, est 8039

Adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2010-11

1.0       Diben a chrynodeb o faterion

1.1.     Mae’r papur hwn yn atodol i gopi electronig drafft o adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer 1 Ebrill 2010 i 31 Mawrth 2011.

2.0       Argymhellion

2.1.     Gwahoddir y Comisiwn i gymeradwyo’r adroddiad. Os bydd y Comisiwn yn ei gymeradwyo, caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ddydd Iau 14 Gorffennaf.

3.0       Trafodaeth

3.1.     Mae’r fersiwn ddrafft o’r adroddiad blynyddol, sydd wedi ei gysylltu yn Atodiad A, i’w gymeradwyo gan y Comisiynwyr a mynd drwy broses brawfddarllen derfynol. Wedyn caiff ei osod fel adroddiad ar-lein rhyngweithiol. Bydd y Datganiad Cyfrifon, a gaiff ei adolygu gan Bwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad ar 7 Gorffennaf, yn cael ei gysylltu wrth yr adroddiad cyn ei gyhoeddi.

3.2.     Bydd fersiwn lawn o’r adroddiad, ar ffurf llinell amser ryngweithiol, ar gael ar wefan y Cynulliad ar 14 Gorffennaf.

3.3.     Bydd y fersiwn ar-lein yn cydymffurfio â chanllawiau arfer gorau ar fynediad ar gyfer gwefannau. Bydd hefyd ar gael fel dogfen pdf a dogfen testun yn unig.

3.4.     Caiff crynodeb wedi ei argraffu ei ddosbarthu mewn digwyddiadau ac i bobl sy’n ymweld â’r Senedd a Pierhead.